Charles Falconer, Barwn Falconer o Thoroton | |
---|---|
Ganwyd | 19 Tachwedd 1951 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, barnwr, bargyfreithiwr |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Arglwydd Ganghellor, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol, Arglwydd Ganghellor yr Wrthblaid, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gyfiawnder, Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr (yr Wrthblaid), Cwnsler y Brenin |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | John Leslie Falconer |
Mam | Anne Mansel |
Priod | Marianna Hildyard |
Plant | Hamish Falconer, Rocco Falconer, Rosie Falconer, Johnnie Falconer |
Bargyfreithiwr a gwleidydd y Blaid Lafur sy'n eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yw Charles Leslie Falconer, y Barwn Falconer o Thoroton, PC, KC (ganwyd 19 Tachwedd 1951).[1]
Penodwyd Falconer yn Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol yn 2003 gan y Prif Weinidog Tony Blair. Fe'i penodwyd yn deiliad cyntaf swydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn 2007 wedi aildrefnu ac ehangu portffolio'r Adran Materion Cyfansoddiadol. Gwasanaethodd yn y rôl newydd am ychydig dros fis cyn i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog ym mis Mehefin 2007 pan gafodd ei ddisodli gan Jack Straw. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder Cysgodol dan arweinyddiaeth dros dro Harriet Harman, a pharhaodd yn y swydd wedi ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd Llafur, hyd iddo - ynghyd â dwsinau o'i gydweithwyr - ymddiswyddo ar 26 Mehefin 2016.[2]
|accessdate=
(help)